Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i wefan Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal

Rydym yn cyd-bwyllgor o sefydliadau iechyd a gofal sydd yn darparu gwasanaethau i Canolbarth Cymru sydd wedi ei sefydlu mewn ymateb i un o'r deuddeg argymhelliad a wnaed yn Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru (2014).  Ein nod yw i sicrhau cydweithio ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru i wella gwasanaethau iechyd a gofal gwledig ar gyfer y phoblogaeth.  Mae dull gweithredu Canolbarth Cymru yn cefnogi disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio a darparu atebion rhanbarthol ar draws ffiniau sefydliadol.

Arweinir Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru gan yr unigolion canlynol:

Cadeirydd Arweiniol – Dyfed Edwards, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr

Prif Weithredwr Arweiniol – Hayley Thomas, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyfarwyddwr Cynllunio Arweiniol – Nicola Johnson, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyfarwyddwr Gweithredol Clinigol Arweiniol – Dr Kate Wright, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyfarwyddwr Rhaglen y Cyd-bwyllgor – Keith Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol a Pherfformiad , Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda