Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i wefan Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal

Yn 2015, sefydlwyd Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth mewn ymateb i Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru gyda'r nod o sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru yn effeithiol ar gyfer ei boblogaeth. Wedi i Lywodraeth Cymru gydnabod bod Canolbarth Cymru yn ardal gynllunio ddynodedig, cafodd Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth ei drawsnewid i ffurfio Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal ym mis Mawrth 2018.

Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ‘Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, sef ‘ymagwedd system gyfan at iechyd a gofal cymdeithasol’, sy'n canolbwyntio ar iechyd, lles ac atal salwch.

Mae Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru yn cefnogi'r cyfeiriad hwn, ac mae ei Fwriad Strategol yn nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud er mwyn sicrhau bod yna ddull cydlynol o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal ledled Canolbarth Cymru.

Arweinir Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru gan yr unigolion canlynol:

Cadeirydd Arweiniol – Yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Prif Weithredwr Arweiniol – Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cyfarwyddwr Cynllunio Arweiniol – Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyfarwyddwr Gweithredol Clinigol Arweiniol – Swydd wag yn disgwyl penodiad

Cyfarwyddwr Rhaglen y Cyd-bwyllgor – Peter Skitt, Cyfarwyddwr y Sir, Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Hywel Dda