Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ‘Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol, sef ‘ymagwedd system gyfan at iechyd a gofal cymdeithasol’, sy'n canolbwyntio ar iechyd, lles ac atal salwch.
Mae Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru, fel ardal gynllunio ranbarthol a ddynodir yn ffurfiol yng Nghymru, yn cefnogi'r cyfeiriad hwn. Mae ein Bwriad Strategol yn nodi'r modd y mae'r Cyd-bwyllgor yn bwriadu sicrhau bod yna ymagwedd gydlynol at gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal ledled Canolbarth Cymru.
Mae'n amlinellu'r modd y bydd sefydliadau partner y Cyd-bwyllgor yn cydweithio i fynd i'r afael ag anghenion cyfredol poblogaeth Canolbarth Cymru o ran iechyd a gofal, yn ogystal â'r heriau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn egluro'r nodau a'r amcanion trosfwaol, ac yn disgrifio'r hyn y mae'r Cyd-bwyllgor yn bwriadu ei wneud a'i gyflawni yng Nghanolbarth Cymru.
EIN GWELEDIGAETH –
‘Bod mynediad teg yn cael ei ddarparu ar gyfer poblogaeth Canolbarth Cymru i wasanaethau iechyd a gofal integredig, diogel, cynaliadwy, o ansawdd uchel’
Mae yna bedwar is-grŵp sy'n eistedd o dan y Cyd-bwyllgor, fel a ganlyn:
Grŵp Gweithredol Cynllunio a Chyflawni Canolbarth Cymru – Arwain y gwaith manwl o ddatblygu cynllun y Cyd-bwyllgor, a'i gyflawni.
Grŵp Cynghori Clinigol Canolbarth Cymru – Cynghori ar fodelau gofal clinigol penodol, gan ysgwyddo rôl arweinyddiaeth o ran dylunio manwl, lle bo hynny'n briodol.
Fforwm Canolbarth Cymru ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chleifion – Cynorthwyo a chynghori ar weithgarwch ymgysylltu a chyfathrebu, er mwyn sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig at drafodaeth, her ac esboniad ystyrlon ledled ardal y Canolbarth.
Grŵp Rheoli Iechyd a Gofal Gwledig Cymru – Bydd Grŵp Rheoli Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW) yn gwneud y canlynol:
Goruchwylio'r gwaith o sefydlu ac adolygu strwythur llywodraethu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru.
Cydgysylltu gwaith ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol.
Goruchwylio'r gwaith o lywio a chychwyn hyfforddiant, addysg ac ymchwil.
Dylanwadu ar fodelau gwasanaeth newydd a'r gwaith o gyflawni modelau gwasanaeth sy'n bodoli eisoes.
Cychwyn, arwain a hwyluso astudiaethau ymchwil a gwerthuso perthnasol, er mwyn llywio a sefydlu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig.