Neidio i'r prif gynnwy

Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion

Ein gweledigaeth - ‘Mae gan boblogaeth canolbarth Cymru fynediad at wasanaethau iechyd a gofal integredig diogel, cynaliadwy, dwyieithog o safon uchel’

Nodau Amcanion
Nod 1: Llesiant - Gwella llesiant poblogaeth Canolbarth Cymru.
  • Cefnogi poblogaeth Canolbarth Cymru i ddod yn iachach gyda ffocws ar hybu arferion ac ymddygiadau iach er mwyn gwella llesiant.

Nod 2: Galluogi pobl i fyw eu bywydau gorau - Creu system iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer poblogaeth Canolbarth Cymru sydd â mwy o ffocws ar ofal yn y lle iawn.

  • Sicrhau, lle bo'n briodol, bod pobl yn cael y rhan fwyaf o'u gofal i ffwrdd o'r ysbyty acíwt, sydd yn y lle iawn mor agos at eu cartrefi â phosibl.
  • Gwella rheolaeth cyflyrau hirdymor o fewn y gymuned trwy well gofal yn y gymuned, hyrwyddo a chefnogi hunanreolaeth.
  • Defnyddio technoleg i alluogi byw'n annibynnol, telefeddygaeth a gofal.
  • Galluogi mynediad hawdd at wasanaethau iechyd a gofal integredig i bobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru.
  • Galluogi a chefnogi unigolion i ddod o hyd i alwedigaeth ystyrlon.

Nod 3: Gweithlu Iechyd a Gofal Gwledig - Creu gweithlu iechyd a gofal gwledig hyblyg a chynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel.

  • Sicrhau bod gweithlu Canolbarth Cymru yn cael ei gefnogi mewn gwelliant parhaus, ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil.
  • Datblygu ac ymestyn rolau gweithlu newydd/uwch, a fydd yn cefnogi gweithio integredig ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd. Er enghraifft, Cymdeithion Meddygol, Nyrsys Cyswllt, Nyrsys Arbenigol, Nyrsys Ymgynghorol, Therapyddion a staff Gofal Cymdeithasol sy'n cefnogi gwasanaethau iechyd gyda meddyginiaeth i unigolion.
  • Datblygu timau amlddisgyblaethol integredig yn y gymuned.

Nod 4: Gofal a Thriniaeth mewn Ysbytai - Creu gwasanaeth Gofal a Thriniaeth mewn Ysbytai effeithiol, effeithlon, cynaliadwy a hygyrch ar gyfer poblogaeth Canolbarth Cymru gyda gwasanaethau allgymorth a rhwydweithiau clinigol cadarn.

  • Sefydlu strategaeth glir ar gyfer gwasanaethau Gofal a Thriniaeth mewn Ysbytai ar gyfer poblogaeth Canolbarth Cymru a fydd yn cynnwys sefydlu rhwydweithiau clinigol gyda chleifion sy'n cael eu trin yn y lle iawn.
  • Galluogi pobl i gael opsiynau llety priodol yn y Canolbarth, gan gynnwys Plant sy'n Derbyn Gofal, pobl ag anableddau a phobl hŷn.

Nod 5: Cyfathrebu, Cynnwys ac Ymgysylltu - Sicrhau bod cyfathrebu, ymwneud ac ymgysylltu parhaus ac effeithiol â phoblogaeth Canolbarth Cymru, staff a phartneriaid.

  • Datblygu a gweithredu mecanweithiau clir ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori, a chyfathrebu â'r boblogaeth berthnasol, a grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid; sicrhau bod cynlluniau, blaenoriaethau ar gyfer datblygu gwasanaethau a gwerthuso gwasanaethau yn cael eu cydgynhyrchu.