Neidio i'r prif gynnwy

Strwythur Llywodraethu

Mae Strwythur Llywodraethu Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru yn manylu ar sut mae'r pwyllgor yn gweithio.

Mae yna tri is-grŵp sydd yn eistedd o dan y Cyd-bwyllgor, fel a ganlyn:

Grŵp Gweithredol Cynllunio a Chyflawni Canolbarth Cymru – Arwain ar ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau y Cyd-bwyllgor a'r cynllun blynyddol.

Grŵp Cynghori Clinigol Canolbarth Cymru – Cynghori ar fodelau gofal clinigol penodol, gan ysgwyddo rôl arweinyddiaeth o ran dylunio manwl, lle bo hynny'n briodol.

Grŵp Rheoli Iechyd a Gofal Gwledig Cymru – Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid yn canolbwyntio ar ddatblygiad manwl a throsolwg o gynllun Iechyd a Gofal Gwledig Cymru gyda ffocws ar ymchwil, datblygu, a lledaenu tystiolaeth mewn ymchwil gwasanaeth iechyd sy'n mynd i'r afael â heriau penodol Canolbarth Cymru.

Mae dau grŵp arall hefyd yn adrodd i Grŵp Gweithredol Cynllunio a Chyflawni Canolbarth Cymru fel a ganlyn:

Grŵp Gofal Cymdeithasol Canolbarth Cymru - Mae grŵp Gofal Cymdeithasol Canolbarth Cymru yn canolbwyntio ar Ofal Cymdeithasol ac alinio cynlluniau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol ar draws Canolbarth Cymru.

Grŵp Comisiynu Strategol Canolbarth Cymru - Mae Grŵp Comisiynu Strategol Canolbarth Cymru wedi’i sefydlu ar gyfer y tri Bwrdd Iechyd yn y Canolbarth i gyflawni eu rôl gomisiynu ar y cyd, wrth ddatblygu a gweithredu gwasanaethau teg, hygyrch, seiliedig ar dystiolaeth, diogel, effeithiol a chynaliadwy i drigolion Canolbarth Cymru.  Mae'r grŵp yn uniongyrchol atebol i'r tri Bwrdd Iechyd perthnasol, fodd bynnag, darperir adroddiadau rheolaidd ar ei waith i Grŵp Gweithredol Cynllunio a Chyflawni Canolbarth Cymru.